Mae Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau ym Mhrifysgol Abertawe yn anelu darparu mynediad cyfartal i adnoddau ein cwsmeriaid i gyd. Mae’r dudalen we yma yn disgrifio’r gwasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol yn y llyfrgell.
Mae’r SUTC yn medru darparu cyngor i ddarlithwyr i wneud defnydd y cwrs yn hygyrch i fyfyrwyr sydd yn ddall neu â nam ar y golwg a’r rhai sydd ag anabledd print gwybyddol. Mae’r ganolfan yn gweithio’n agos gyda staff dysgu i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu trawsgrifiad mewn amser i’r darlithoedd a therfyn amser yr aseiniad. Mae’r sefydliad a chydweithrediad sain yn sicrhau nad yw myfyrwyr gydag anableddau print yn cael anfantais.
Mae cefnogaeth myfyrwyr yn anelu darparu gwasanaeth integredig a phroffesiynol sy’n canolbwyntio ar y myfyrwyr. Maent yn cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth i alluogi pob myfyriwr ddatblygu a chyflawni i’w potensial llawn.
Ynghyd â gwybodaeth werthfawr, fe ddewch o hyd i restr Tiwtoriaid cyswllt anabledd o bob coleg.
Er bod Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i’r myfyrwyr, mae’n ddefnyddiol gwybod pwy maen nhw’n helpu fel eich bod yn gallu cynghori’ch myfyrwyr gydag unrhyw faterion.
Mae’n helpu hyrwyddo budd y myfyrwyr yn ystod eu astudiaethau trwy ddulliau gwahanol therapiwtig.
Academi Cyflogadwyedd Abertawe SEA
Helpu ein myfyrwyr i fod yn gwbl ddarparedig ar gyfer byd gwaith pan fyddant yn ein gadael.
Canolfan Llwyddiant Academaidd
Mae’n darparu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn cael eu cefnogi ac annog i berfformio i’w potensial uchaf.
Cefnogaeth Prifysgol
Mae Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe yn gweithio i osod cynwysoldeb ledled y Brifysgol i alluogi mynediad a sicrhau bod y myfyrwyr, beth bynnag eu cefndir addysgol, diwyllianol, cymdeithasol ac economaidd a/neu nodweddion gwarchodedig, yn cael y cyfle a chymorth i ddatblygu mewn addysg uwch. Darganfyddwch wybodaeth ynglŷn ag Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe, gan gynnwys adnoddau i staff.
Mae tudalenau we Adnoddau Dynol yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol sydd yn cynnwys swyddi newydd, gweithdrefnau a pholisïau, cyflogau a phensiynnau, cymorth a chefnogaeth i sicrhau cyfle cyfartal a datblygiad staff.